pob nos yn llawn o ellyllon, ac wedi dyrysu synhwyrau llawer un. Pa ryfedd fod y llyfr hwn wedi effeithio cymaint ar fywydau dynion? Mor dryloyw yw ei arddull, mor gain a naturiol ei Gymraeg! Ac mor rhyfedd ydyw ei ddychymyg pan yn crwydro trwy'r eangderau dychrynllyd hynny, pan yn dilyn o'i ledol ar ôl milwyr disglair Lusiffer wrth iddynt deithio fel mellt hyd y fagddu hyll!
Rhyfedd ac ofnadwy ydyw'r pethau ddarlunnir ganddo, ac nid heb ychydig ofn y medrir meddwl am danynt ar ffordd unig fel hon wedi nos. Cyn i oleuadau Harlech ddod i'r golwg, yr oedd fy meddwl wedi troi at emyn y Bardd Cwsg, emyn sy'n dangos beth fuasai ei weledigaeth ym Mharadwys pe'r ysgrifenasai hi,—
"Myfi yw'r Atgyfodiad mawr,
Myfi yw gwawr y bywyd;
Caiff pawb a'm cred, medd f'Arglwydd Dduw,
Er trengi, fyw mewn eilfyd.
"A'r sawl sy'n byw mewn ufudd gred
I mi, caiff drwydded nefol
Na allo'r angau, brenin braw,
Ddrwg iddaw yn dragwyddol.
"Yn wir yn wir, medd Gwir ei hun,
Pob cyfryw ddyn sy'n gwrando
Fy ngair gan gredu'r Tad a'm rhoes,
Mae didranc einioes ganddo."