Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/118

Gwirwyd y dudalen hon

Ty'r Ficer

Llawn o ddyfroedd oedd Llanymddyfri pan welais i'r lle gyntaf, er fod hynny yn niwedd mis Mehefin.

Bran a Gwydderig
A Thywi fynheddig
A Bawddwr fach fawlyd
Yn rhedeg drwy'r dre," —

nid yn unig yr oedd y rhain yn llifo dros y dolydd, ond yr oedd y glaw yn tywallt fel diluw. Yr oedd wedi golchi swyddogion y ffordd haearn yn lan; a thybiwn innau, wrth edrych o'r trên pan safodd yn Llanymddyfri, mai mewn dillad gwlybion y byddai raid i mi dreulio gweddill y dydd. Gwelwn nad oedd y dref yn ymyl, ac ni welwn gerbyd fuasai'n noddfa rhag y gwlaw. Ond, wedi disgyn,