minnau tua'r môr. Ond pan ddaeth y bore, yr oedd haul disglair ar bob peth, a minnau'n meddwl mor hyfryd oedd fy lle.
Wedi cael cyfarwyddiadau manwl, cychwynnais tua thŷ'r Ficer. Gadewais ysgol Llanymddyfri ar y de, a chefais fy hun cyn hir ym mhrif heol y dref. Wrth grwydro drwyddi, tybiwn mai tref yn prysur adfeilio ydyw Llanymddyfri. Ni welais ddim gwaith yn cael ei wneud yn unlle, ac nid oedd neb prysur yn y golwg. O'r negeseuwr i'r meddyg, yr oedd pawb yn rhodio'n hamddenol, fel pe mai unig amcan bywyd ydyw treulio'r dydd i ddisgwyl y nos a threulio'r nos i ddisgwyl y bore. Ni welwn gwsmer yn yr un o'r siopau; yr oedd pob siop fel pe'n hepian, a'r prentisiaid dan y cownter yn disgwyl diwrnod ffair. Gwelais siop lyfrau, arwydd sicr o ddiwylliant, ond ôl-rifynnau oedd yn y ffenestr, rhai'n traethu am faterion gwleidyddol na chymer ond yr hanesydd ddiddordeb ynddynt yn awr. Gwelais laswellt yn tyfu yn y farchnad, gwelais yriedydd yn golchi ei gerbyd y drydedd waith er pan gafodd gludo neb, gwelais saer yn cysgu yng nghanol ei shavings, gwelais gapel Wesleaid - pwy mor weithgar - wedi ei gau. Cyfarfyddais asiedydd deallgar, yr hwn ddywedodd lawer o hanes y dref i mi. Cyfeiriais fy ffon at laswellt oedd yn ceisio ymwthio i fyny rhwng cerrig yr heolydd,