tua'r castell. Saif ar dalp o graig yn ymgodi ar lan yr afon. Yr oedd dannedd y graig i'm hwyneb wrth i mi nesáu ato, a gwelwn yr eiddew yn ymglymu am ei fur toredig. Cerddais rhyngddo a'r afon, a dringais y bryn. Y mae'n sicr fod llawer o dref Llanymddyfri wedi ei hadeiladu a'i gerrig. Nid oes ond dau ddarn o'r mur trwchus yn aros, y darn agosaf at y dref, ond yr anhawddaf cael cerrig o honno. Y mae'r gornel, gyda thwr mae'n debyg, wedi syrthio, ac yr oedd coed yn estyn eu canghennau dros y muriau oddi ar ben y bryn y tu allan. Gwelwn ddrysau y bu'r gwylwyr yn esgyn ar hyd iddynt i'r muriau unwaith. Tawel iawn ac unig ydyw'r adfail, o'i cymharu ag ef y mae eglwys a mynwent Llandingad, welwn dros gornel y bryn, yn lle byw. Bu Gruffydd ab Rhys yn gwarchae arno, yn adeg amddiffyn Cymru. Cymerodd Rhys ei fab ef yn 1202; ac wedi hynny bu Gwenwynwyn, Rhys Ieuanc, a Rhys Grug yn ymladd yn ei ŵydd. Llawer un fu farw yn y ffos sydd eto i'w gweled yn amgylchu darnau'r castell,- ond mwynach yw'r olygfa geir o honno heddyw na golwg ar ei hanes. Y mae gwastadedd bychan gwyrdd rhyngddo a'r afon, y mae'r dref ar y gwastadedd oddi tano, ac onid ofer i mi geisio darlunio prydferthwch dyffryn y Tywi?
Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/123
Gwirwyd y dudalen hon