Ynys Cynhaiarn, ac yn ei mynwent y gorwedd Dafydd y Garreg Wen. Cyfeiriasom ati'n araf ar hyd y ffordd las gwmpasog, tra'r oedd y caeau a'r môr yn ymddangos yn gydwastad,- y naill yn wyrdd a'r llall fel arian byw.
Yr oeddem braidd yn lluddedig, ac ni waeth cyfaddef nad oeddem wedi bwriadu dadluddedu yn Ynys Cynhaiarn uwch ben cwpanaid o dê. Ond och! Nid oes yn Eglwys Ynyscynhearn tua 1830ymyl yr eglwys, nac yn agos, ond beudy to brwyn adfeiliedig. Y mae porth yr eglwys ymron mynd â'i ben iddo, ond y mae rhyw fath o drwsio musgrell wedi bod ar yr eglwys droeon. Morwyr ac amaethwyr sy'n gorwedd yn y fynwent. Y mae rhyw Lywelyn Cymreig yn gorwedd yno, a Charreg o Gernyw, a Mac Lean o'r Alban. Gwelsom fedd pilot wedi boddi, a gwelsom lawer enw prydferth heblaw Llwyn y Mafon. O'r diwedd, yn un o'r corneli agosaf i'r môr, cawsom y bedd yr oeddem yn chwilio am dano. Carreg las sydd ar y bedd hwnnw, ar ei gorwedd, ychydig yn uwch na'r lleill. Ar ben y garreg y mae llun telyn mewn cylch, ac yna yr ysgrifen hon, -
BEDD
DAVID OWEN
neu Ddafydd y Garreg Wen.
y Telynor rhagorol
a gladdwyd 1749,
Yn 29 oed.
Swynai'r fron, gwnâi'n llon y llu — a'i ganiad,
Oedd ogoniant Cymru;
Dyma lle cadd ei gladdu,
Heb ail o'i fath, Jubal fu.
E.O.