Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/127

Gwirwyd y dudalen hon

Y mae'r bedd yn un o'r rhai mwyaf dinod ymysg y beddau dinod sy'n llenwi'r fynwent hon; ac oni bai am ofal Elis Owen o Gefn y Meysydd, ni fuasai yno garreg o gwbl. Uwch ben bedd y cerddor saif danadl poethion a checs a llysiau bras, anhyfryd eu harogl. Y mae'r fynwent a'r eglwys yn ddarlun o bethau wedi eu gadael. Y mae'r eglwys wedi ei phlastro drosti, heb neb i ofalu am ei phrydferthwch, ac yn wag. Y mae'r fynwent mor anhrefnus â phe buasai pla wedi difa holl drigolion y fro, ac wedi gadael i'r marw gladdu'r marw.

Eto i gyd, nid ydyw'r fan dawel unig heb brydferthwch. Yr oedd un o honom wedi blino, a rhoddwyd ef i gysgu ar fedd Dafydd y Garreg Wen, a'i glust ar y delyn. A glywodd alawon yn ei gwsg, nis gwn. Cerddasom ninnau, y ddau effro, o amgylch y llannerch gysegredig. Gwelsom mai mynwent bedair-onglog oedd, gyda choed yn estyn eu canghennau drosti. O'i hamgylch y mae'r morfa isel, ac yna cylch o fynyddoedd yn edrych dros y morfa arni. Pan oedd yn ynys, yr oedd yn brydferthach nag ydyw'n awr.

Wedi treulio rhyw awr yn y fynwent, yr oeddem yn effro ein tri, ac yn newynog iawn. Troesom yn ôl i'r ffordd, a chyraeddasom Bentre'r Felin. Tê fynnai dau o honom, byddai'n hawdd cerdded ar ei ôl, llaeth fynnai'r llall.