poethder llethol un o ddyddiau olaf Mehefin. A thra bo'r glaw taranau'n peidio, a'r coed yn gorffen diferu, mi ysgrifennaf hanes digyffro taith y dydd.
Yn weddol fore cychwynnais o Lanfyllin i weld gwlad Ann Griffiths, - ei bedd, a'i chartref, os medrwn. Nid oedd y ffordd yn rhwydd i'w cherdded ar ôl y glaw, a phan ofynnais i hen fforddolyn tâl, ai honno oedd ffordd Llanwddyn, atebodd yn awgrymiadol mai dyna ei dechrau hi. Ond yr oedd perarogl y gwrychoedd a'r caeau, a'r lliwiau tyner, yn gwneud iawn am drymder y ffordd. Wedi cerdded tua thair milltir dywedodd bachgennyn arafaidd wrthyf fy mod yn Llawr y Cwm, lle gwelwn gapel Methodist bychan yn ymnythu rhwng torlan ac afonig. Cyn i mi fyned nepell ymlaen, cyfarwyddodd torrwr cerrig fi i ffordd gul oedd yn gadael y ffordd fawr, ac yn dirwyn i fyny hyd ochr y bryn. Toc cyrhaeddais ben y tir, a gwelwn droliau gwaith dŵr Llanwddyn yn ymlusgo i fyny'r dyffryn hyd ffordd y gwaelod.
Wedi gadael cysgod coed, does i gaeau agored, ar ben y gefnen, a gwelwn hen ŵr rhyngof a'r goleu, yn sefyll, ac fel pe'n disgwyl. Yr oedd yn disgwyl ei fab adref o Loegr, ond buan y trechwyd ei siomedigaeth gan gywreinrwydd. Nid rhyw lawer o sôn sydd am Ann Griffiths ar ororau Maldwyn yn awr, ebe'r hen ffarmwr, ac