Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/132

Gwirwyd y dudalen hon

"O nag ydw!"

"A ddysgodd neb erioed i ti ganu alawon Dafydd y Garreg Wen, a thithau'n byw yn yr un wlad a fo?"

"Naddo."

"Be fedri di ganu?"

Little Ship a Gentle Spring.

Yr un dystiolaeth brudd wyf yn cael ymhob man yng Nghymru. Mae cartref enwog yn ymyl y plentyn,- lle cyfieithwyd Gair Duw i'w iaith, lle rhoddwyd ar gân ryw wirionedd wareiddiodd ei gyndadau, lle daliwyd rhyw alaw nefolaidd i buro a diddanu meibion dynion byth mwy,- ond, druan bach, ni wyr ef ddim am danynt. Feallai fod ei athro neu ei athrawes heb fedru ei iaith, ac felly'n hollol anghymwys i'w ddysgu. Feallai, mewn ambell i ran o'r wlad, fod ei athro yn Gymro, ond rhy anwybodus i ddysgu dim iddo am ei wlad ei hun, ac yn rhy ddi-athrylith i weled gogoniant llenyddiaeth Cymru. Dysgir alawon yn yr ysgolion, ac eto ceir ardaloedd cyfain lle nas gall y plant ganu "Llwyn Onn." Rhaid fod rhyw swyn anghyffredin yn alawon Cymru, yn ogystal ag yn ei hiaith, onide buasai galluoedd Philistaidd y byd hwn wedi eu llethu er's llawer dydd. Y Llywodraeth, yn credu fod yr iaith Gymraeg yn drafferth i'w swyddogion tâl; arolygwyr, wedi rhoddi eu câs ar iaith nas gallant ond ei hanner