siarad; athrawon, wedi dad-ddysgu Cymraeg da wrth ddysgu Saesneg sâl,- neu heb fedru erioed ond y Saesneg sâl yn unig; goruchwylwyr anwybodus, yn credu fod nef a daear yn agored i'w plant os medrant ddeall Saesneg bratiog porthmyn Caer,— druan o eneidiau plant Cymru rhyngddynt oll.
Chyraeddasom y garreg. Carreg fawr ydyw, ar ben cae glas. Dywed yr hanes fod Dafydd yn dod adref o Hafod y Porth ar lasiad y bore. Yr oedd yr haul yn dechrau goreuro y mynyddoedd gogoneddus acw, ac yr oedd eangderau y môr yn y golwg. A chododd ehedydd bach uwchlaw'r coed, ac arllwysodd lawenydd y bore mewn can. Rhoddodd Dafydd ei delyn i lawr wrth y garreg hon, a chyfansoddodd "Godiad yr Ehedydd."
Wedi cyrraedd y Garreg Wen yn ôl yr oedd gwahoddiad cynnes i ni aros noson. Ond yr oedd yn rhaid prysuro ymaith. Cerddasom yn brysur tua Phorth Madog, ar hyd rhiwiau lawer. Gwelsom lawer hafan brydferth, ac aml gip ar y Traeth Mawr a Chastell Harlech rhwng y coed. Yr oedd tri yn prysuro trwy ystryd hir Porth Madog, a chyda i ni eistedd yn y trên, yr oeddem yng Nghricieth yn ôl. Teimlad dedwydd, wrth gysgu ar lan y môr y noson honno, oedd y teimlad ein bod wedi gweled bedd y telynor ac wedi bod yn y Garreg Wen.