ymestyn rhwng Hwlffordd a Thyddewi. Yr oeddwn wedi deall y byddai un o geffylau gorau'r wlad, ac un o'r gyrwyr gorau, yn fy aros yng ngorsaf Hwlffordd. Bu'n edifar gennyf droeon yn ystod y dydd na fuaswn wedi cerdded; ond, o ran hynny, gorfod i mi gerdded llawer, ac nid o'm bodd.
A dyma ni'n carlamu drwy stryd Hwlffordd. Mor hyfryd ydyw'r cerbyd ysgafn ar ôl y trên trwm, ac mor iach ydyw awel y bore dros y bryniau gleision acw. Yn union o'n blaenau ymgyfyd castell Hwlffordd, gan wgu i lawr arnom, ac ar yr hen dref ddiddorol yr ydym yn cyflymu drwyddi. Troesom ar y de wrth droed craig y castell, ac aethom drwy stryd gul ar garlam gwyllt, er perygl nid ychydig i'r plant troednoeth coesnoeth oedd yn ymhyfrydu yn y dŵr ac yn y llaid sydd ar hyd ochrau ac ar ganol y Stryd Dywyll. Dywedai'r gyrrwr mai ym Mhenfro Seisnig y mae Hwlffordd, ac na siaredir gair o Gymraeg ynddi. Gwelwn yn amlwg oddi wrth enwau'r siopwyr fod llawer cenedl yn trigo yn y dref. Bleddyn Gymreig mewn heddwch a Havard Normanaidd.
Sais oedd y gyrrwr, a charn Sais. Ni wyddai ddim am Arthur, ni chlywodd sôn am William Havard, ni wyddai ddim am hanes y dref. Sur ac anfoddog oedd ei drem, ac nid oedd ei iaith mor goeth ag iaith ambell un, oherwydd yr oedd