dywedodd gyda blas ei fod yn lle ardderchog am lwynogod a dyfrgwn. Dywedais innau nad oeddwn yn cymeryd y diddordeb lleiaf mewn llwynogod na dyfrgwn; ac nad oedd dim casach gennyf na chw^n hela, ond y bobl fydd yn eu dilyn. Daethom at afonig fechan dryloyw, oedd yn rhedeg dros raean glan, dan lwyni o frwyn a llysiau'r gwenyn; ac wrth fy ngweled yn edrych ar y blodau, dywedodd y gyrrwr fod y nant yn lle ardderchog i bysgota brithylliaid, a gofynnodd i mi a oeddwn yn ddaliwr da. Dywedais fy mod wedi dal un brithyll unwaith, a bod yn edifar gennyf byth; ond ni fedrai ddeall hynny. Yr oedd y gwlaw yn dal i ddisgyn, a'm calon innau'n drwm. A dechreuodd y gyrrwr ganu, gan wneud pob sw^n rhwng sw^n hogi llif a sw^n melin goffi. Gofynnodd i mi toc a oeddwn yn hoffi canu, a dywedais innau nad oeddwn wedi clywed canu ers rai dyddiau. Yr oeddwn yn ddrwg fy hwyl, ac ni phetrusodd y gyrrwr ddweud gan ba fod y blinid fi.
Ond, gyda hynny, peidiodd y gwlaw, a gwenodd yr haul ar Ddyfed. Siriolodd y ffurfafen, a gwenodd Dyfed arni drwy ei dagrau. Y mae gwen yn disgyn ar rudd brenhines y weirglodd, dacw fynyddoedd a chastell a'r môr, a gallasech glywed dau wlyb yn bloeddio canu dros yr holl wlad. "Dydach chi ddim llawer o ganwr," ebe'r gyrrwr, ar ddiwedd y gan. "Nag wyf," ebe