finnau, "nid ydych chwithau ddim chwaith, y mae fy llais i wedi ei golli o hir ddistawrwydd, a'ch llais chwithau wedi ei andwyo gan ormod siarad."
Castell Roche oedd y castell a welem. Un twr sydd o honno, a saif hwn ar drwyn craig sy'n ymwthio i fyny drwy'r garreg galchaidd. Gellir ei weled o bell o bob ochr; y mae'n ddu ac uchel a balch fel gorthrwm, yn gwgu ar holl ddyffrynnoedd y wlad hon. Wedi i ni ei adael dywedai'r gyrrwr ein bod yn nesu at y terfyn rhwng Dyfed y Saeson a Dyfed y Cymry, a chefais dipyn o hanes y ddwy genedl ganddo. Nid oedd gwleidyddiaeth Cymry Penfro wrth ei fodd, a gyrrai'n enbyd ar y personiaid am na ddysgent well credo iddynt. Ond dywedai eu bod yn gynnil, yn llwyddiannus, ac yn bobl iach a chryf. Ond anffawd fawr oedd eu bod yn siarad Cymraeg, ac yntau'n deall yr un gair.
Tra'r oedd y gyrrwr yn traethu ei ddoethineb fel hyn, yr oedd golygfa ogoneddus o'n blaenau, - creigiau'n taflu allan o'r ddaear ar y de i ni, a chastell Roche o hyd; a'r môr, gyda'i benrhynnoedd a'i ynysoedd, ar ein chwith ac o'n blaenau. Cyn hir, disgynasom ar hyd y rhiw at dafarn Niwgel. Y mae hon ar lan y môr; ac yn union ar y terfyn, fe ddywedir, rhwng y wlad Gymraeg a'r wlad Saesneg. Yr oeddem ninnau yma ar hanner ein ffordd, ac yr oedd yn rhaid i'r ferlen a'r gyrrwr wrth lymaid. Y mae'r dafarn