chwim, a'i mwng yn yr awel, hyd nes y deuem at riw drachefn.
Pan ddisgynasom i Solfach, unig sylw'r gyrrwr am y bobl oedd, - "awful radicals." Hafan fach ddymunol sydd yma, ac y mae gwedd gyfoethog a llewyrchus ar bob peth. Tra'r oedd y gyrrwr a'i ferlen yn goblygu i fyny'r rhiw, cefais amser i sgwrsio a'r fforddolion ddigwyddent fy nghyfarfod. Hoffwn eu Cymraeg yn fawr, yr oedd mor syml a melodaidd; ac yr oedd rhyw ledneisrwydd boneddigaidd ynddynt yn gymysg ag awydd anniwall i siarad.
Ond y mae ein hwynebau ar Dyddewi o'r diwedd. Nid oes bosibl peidio cofio ei hen enw wrth edrych arni, -"Gwlad yr Hud." Y niwl tenau, pellter diderfyn y môr, y creigiau ysgythrog acw,- dyma deilwng gartref i ddefodau erchyll rhyw hen grefydd baganaidd, dyma wlad yr hoffai ysbryd aflonydd rhyw hen forleidr crwydrol aros am ennyd ynddi, ar ryw benrhyn neu ynys sydd eto'n dwyn ei enw. Gwlad hyd a lledrith ydyw, wedi ei gwneud gan Ddewi yn wlad goleuni'r efengyl. Ond y mae ei swyn a'i phrydferthwch fel erioed.
Arhosodd y cerbyd yng nghanol Tyddewi, a disgynnais i westy cysurus a phrydferth. Wedi cael tamaid,- yr oedd erbyn hyn rhwng naw a deg o'r gloch y bore,- cerddais ymlaen i gyfeiriad yr eglwys gadeiriol. Ni welir hi nes