ANNWYL CHWAER,—'Rwif yn gweled mwy o angen nac erioed am gael treilio y rhan su yn ôl dan rhoi fy hyn yn feunyddiol ac yn barhaus, gorph ac enaid, i ofal yr hwn su yn abal i gadw yr hyn roddir ato erbyn y dydd hwnnw. Nid rhoi fy hun unwaith, ond byw dan roi fy hun, hyd nes ac wrth roi yr tabarnacle hwn heibio. Annwyl chwaer, mae meddwl am i roi o heibio yn felys neillduol weithiau,—nid marw ynddo ei hun, ond yr elw mawr sudd yw gael trwyddo.
Syrthiodd cysgodion tragwyddoldeb ar ei henaid pan nad oedd eto ond ieuanc iawn; daeth y mynyddoedd tywyll i'r golwg pan oedd yn teithio rhan rhosynnaidd heulog ei llwybr, a'i hysbryd yn ysgafn a'i ffurfafen heb gwmwl; y mae nwyf a melystra ieuenctid yn ei chan, a mawredd tragwyddoldeb hefyd. Am bob un o'i hemynau gellir dweud y geiriau sydd ar ddiwedd ei llythyr,—
Hyn oddi wrth eich chwaer yn cyflym deithio trwy fyd o amser i'r byd mawr a bery byth.
Ac wedi ofni grym pechod, wedi cario corff o lygredd, wedi wynebu'r afon donnog, aeth heibio i'r byd mawr a bery byth.
O'r fynwent trois tua chartref Ann Griffiths. I'm cwestiwn parthed hyd y ffordd cawn amrywiol atebion,- pedair milltir a hanner ebe un, tair milltir ebe un arall, a sicrhau y trydydd fi mai dwy filltir a hanner union oedd i Dolwar Fach. Cerddais i lawr y bryn , croesais afonig red dan goed cysgod fawr, a dringais ochr bryn sydd ar gyfer y pentref. Cefais fy hun ar ffordd fryniog, weithiau'n dringo bryn ac yn