Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/18

Gwirwyd y dudalen hon

disgyn yn ebrwydd wedyn, gan syllu ar aeddfedrwydd cyfoethog y wlad, a'r haul yn gwenu drwy gymylau ar y gwlith, —

"Gwlad dda, heb wae, gwlad wedi ei rhoi dan sêl,
Llifeirio mae ei ffrwyth o laeth a mêl;
Grawn sypiau gwiw i'r anial dir sy'n dod,
Gwlad nefol yw, uwch law mynegi ei chlod.


Toc does at groesffordd ar waelod cwm; trois ar y de hyd ffordd a'm denai i'w chysgodion. Ar y naill law yr oedd craig, weithiau'n noeth, weithiau'n dwyn baich o goed a blodau; ar yr ochr arall yr oedd caeau gwyrddion serth. Rhedai afonig yn dryloyw, dan furmur yn ddedwydd. Uwch ei phen ymblygai bedw a chyll; estynnai y coesgoch ei phen dros y lan, i weld ei llun mewn llyn tawel; aml lecyn gwyrdd welais ar fin y dŵr, llawn o lysiau'r neidr a llafrwyn a'r olcheuraid, gyda chwys Mair a'r feidiog las dipyn ymhellach oddi wrth y dŵr, a rhedyn tal yn edrych ar eu prydferthwch oddi ar ochr y bryn. Canai miloedd o adar,- ni wiw i mi ddechrau enwi'r côr, - oddigerth pan ddistawent tra canai'r gog, yr hon oedd heb weld gwair wedi ei dorri yn unlle. Sylwn yn fanwl ar bopeth, oherwydd gwyddwn fod Ann Griffiths wedi cerdded y llwybr hwn filoedd o weithiau; gwyddwn mai wrth syllu ar ryw afonig neu fynydd y byddai'n dechrau canu, ac yna ehedai ei meddwl ymhellach bellach oddi wrthynt at bethau byd a bery byth. Pwy a ŵyr nad yn sŵn yr afon hon y canwyd gyntaf, —