Toc gadawodd yr afonig a minnau gwmni ein gilydd; aeth hi trwy gwm dwfn tua'r Fyrnwy, dechreuais innau ddringo bryn lled serth, a gwelwn Dolwar Fawr ar y llaw dde i mi, dipyn o'r ffordd. Yr oedd y cymylau erbyn hyn wedi clirio, yr oedd yr hin yn boeth orlethol, ac yr oedd tarw mewn cae cyfagos yn beichio dros y wlad ac yn dilyn ar fy ôl. Daeth i'm meddwl bennill welais, wedi ei ysgrifennu gan Ann Griffiths a'i llaw ei hun, —
"Er mai cwbl croes i natur
Yw fy llwybr yn y byd,
Ei deithio wnaf, a hynny'n dawel,
Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb pryd;
Wrth godi'r groes, ei chyfri'n goron,
Mewn gorthrymderau llawen fyw,
Ffordd yn uniawn, er mor ddyrys,
I ddinas gyfanheddol yw."
Ni welwn o'm blaen ddim, cyfannedd nag anghyfannedd, ond y llwybr syth yn mynd i fynu'r bryn, a'r gwrychoedd o boptu'n gwywo yng ngwres llethol yr haul poeth. Ond yn y man, wrth edrych ar hyd y llwybr, fel yr oeddwn yn dynesu at ben y rhiw, gwelwn fynyddoedd pell, fel breuddwyd gwr ieuanc, yn ymgodi'n brydferth a gwyrdd. Cerddais hyd ffordd weddol wastad hyd nes y does at lidiart y mynydd. Ar yr aswy yr oedd y mynydd rhydd braf, gydag eithin a danadl poethion a brigau'r twyni'n tyfu ar hyd-ddo, a bryniau Maldwyn yn hanner cylch y tu hwnt iddo. Ar y dde