"Mi gerddais o Lanfyllin; sawl milltir gerddais i?"
"Wyth. Y mae arnoch chwi eisio bwyd; dowch at y bwrdd i gymeryd tamed o ginio."
Ni fynnwn ginio, ond gofynnais a roddai hi i mi gwpanaid o ddŵr oer. Daeth a gwydriad o lefrith i mi, a'r hufen melyn yn felys arno. Lawer gwaith wedyn, pan yn yfed llefrith a'i hanner yn ddwfr a'i hufen wedi ei hel yn ofalus oddi arno, bûm y'n hiraethu am y glasiad llefrith a gefais yn Nolwar Fechan. Tra'r oeddem ni'n sgwrsio, clywem droediad ysgafn ar y llofft uwchben. Gwelodd y wraig fy mod yn dyfalu pwy oedd yno, a chododd ei llais i alw, —
"Ann!"
"Ann," ebe finnau, "a ydyw teulu Ann Griffiths yn yr hen gartref o hyd?"
"O nag ydyw, ar ôl ei theulu hi y daethom ni"
"A oes rhai o ddodrefn yr hen deulu wedi aros?"
"Nag oes ddim, ac nid wn i a oes rhai o'r hen deulu yn aros ychwaith."
Wedi i mi gael y sgwrs a'r wraig am amaethyddiaeth, ac a'r ferch am flodau'r ardd, daeth yr ysgolfeistr, yr hwn a letyai yno, i'r tŷ. Y mae'n ŵr deallus, yn sylwedydd craff. Dywedai am ei anhawster i ddysgu plant Cymreig, oherwydd Sais uniaith yw, a mawr ganmolai gyflymder