Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/23

Gwirwyd y dudalen hon

meddwl plant y bryniau rhagor plant Saeson y gwastadeddau. Ond ni chlywsai air erioed am Ann Griffiths; ac edrychai'n ddrwgdybus arnaf, fel pe bawn un heb arfer dweud y gwir, pan ddywedais wrtho ei fod yn byw yn nhŷ emynyddes gorau'r byd.

Ni welais erioed liwiau mwy gogoneddus na lliwiau'r blodau y prynhawn hwnnw; yr oedd y rhosynnau gwylltion, welwn rhyngof ag awyr Mehefin ar bennau'r gwrychoedd, yn orlawn o oleuni; yr oedd goleuni'r haul yn brydferthach pan adlewyrchid ef o'u gwynder hwy na phan yr edrychid ar yr haul ei hun, fel pan yn

"Disgleirio mae gogoniant Trindod
Yn achubiaeth farwol ddyn."

Wedi'r ffordd hir hyfryd oedd cyrraedd mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa, a gadael y gwres annioddefol, a myned i mewn i'r eglwys dywyll oer. Nid oes dim neilltuol yn yr eglwys; ond tra yr oeddwn ynddi daeth cyfnewidiad dros y diwrnod,- yn sydyn duodd yr awyr, ymrwygai taranau dychrynllyd trwyddi, fflachiai mellt nes y byddai'r eglwys dywyll yn goleu a beddergryff teulu Llwydiarth yn ymddangos, fel ysgrif gwledd Belsasar, yn amlwg ar ei mur. Doi ryw ddarn emyn o waith Ann Griffiths i'm cof o hyd, -


"Pan fo Sinai i gyd yn mygu,
Sain yr utgorn uchaf radd,
Caf fynd i wledda dros y terfyn
Yng ngrym yr aberth, heb fy lladd."