Liw. Ar un ochr i ni y mae gwrych; ac ar yr ochr arall y mae dôl lydan werdd, a'r afon yn ddwndwr gyda'i godre. Yr ochr arall i'r afon y mae'r Cei, ffordd gul wedi ei chodi'n uwch na'r tir gwastad o boptu iddi. Ar hyd y cei noethlun hwn, dyfal gyrcha'r pererinion Annibynnol i'r Hen Gapel a welwn draw. Anodd cael rhodfa fwy dymunol na'r Cei yn yr haf, pan fo'r brithylliaid i'w gweled yn chware yn yr afon, a phan fo awel ysgafn gynnes yn crwydro dros laswellt a meillion aroglus. Ond yn y gaeaf, pan fo dŵr oer rhewllyd o boptu, pan chwyth awel lem finiog oddi ar fynydd sydd dan ei lwydrew, y mae golwg triglyd truenus ar lawer hen Gristion ffyddlon yn tynnu yn erbyn y rhew-wynt tua'r cyfarfod gweddi.
Llawer gwaith y clywais fy nhad yn adrodd hanes gŵr tew yn cerdded hyd y Cei yn nyfnder gaeaf oer. Er mwyn cynhesrwydd, yr oedd wedi gwthio ei ddwylo i bocedi ei lodrau, ie, i'w gwaelod, oherwydd yr oedd yn erchyll o oer. Pan ar ganol y Cei, llithrodd ei droed ar y rhew, a syrthiodd ar ei wyneb ar y llwybr. Yno yr oedd mewn enbydrwydd mawr. Yr oedd ei ddwylo'n ddwfn, fel y dywedwyd, ym mhocedi ei lodrau. Os ymegniai i dynnu y naill law allan, treiglai oddi ar y llwybr i'r dwr ar y naill ochr, oherwydd yr oedd y llwybr yn gul iawn. Os tynnai'r llaw arall, ai drosodd yr