ochr arall, ac yr oedd dwfr yr ochr honno hefyd, yr un mor oer, a rhewllyd. Nid oedd dim i'w wneud ond aros yn llonydd hyd nes y delai rywun heibio. Ni fedrai neb, fel y Lefiad a'r offeiriad y sonnir amdanynt yn yr Ysgrythur, fyned "o'r tu arall heibio" a daeth rhyw Samaritan o'r diwedd i fwrw ei anwyd trwy godi'r gŵr oedd yn methu tynnu ei ddwylo o'i bocedi.
Ond haf ydyw'n awr; y mae'r, defaid yn y mynydd, nid ydyw Awst wedi darfod, y mae'r glaswenwn a blodau'r taranau hyd y cloddiau, ac y mae'r corn carw hyd lethrau'r mynydd. Dyma'r llwybr yn dod â ni at yr afon eto, a dacw'r "Hen Gapel" yr ochr draw, - hen gapel Lewis Rhys ac Abraham Tibbott, Dr Lewis a Michael Jones. O'n blaenau y mae craig serth yn ymgodi i'r nefoedd, ac ar ei hael y mae muriau toredig Castell Carn Dochan. Dywedir fod telyn aur wedi ei chuddio dan y llawr ar ben y graig uchel acw; ond daw'n fellt a tharanau ofnadwy os dechreuwch, gloddio ati. Nis gwn i sicrwydd a oes telyn aur dan lawr yr hen amddiffynfa, ond gwn fod gwallt y forwyn yn tyfu yn rhigolau'r muriau, a gellir syllu ar ei brydferthwch heb ofni mellt na tharanau na dim.
Ond dyma ni wrth y Deildref, cartref John Parry, athro barddonol Ap Fychan, - "bardd rhagorol, llawn o athrylith a than awenyddol, fu farw o'r darfodedigaeth yng nghanol ei ddyddiau