— nid oes yno ond to diferllyd a ffenestri gweigion, fel tyllau llygaid ysgerbwd. Y mae dâs o hen wair yn y gadlas yn ymyl, a llwybr glaswelltog i'r caeau, llwybr nad oes erbyn hyn fawr o wahaniaeth rhyngddo a'r cae. Pe gwelai Ap Fychan ef yn awr, hawdd fuasai iddo ddweud geiriau Dafydd ab Gwilym am y murddun welodd mewn lle y buasai unwaith "yn glyd uwchben ei fyd mwyn," —
"Yn ddiau mae i'th gongl ddwy—och,
Gwely im oedd, nid gwal moch."
Oddiyma awn i fyny hyd y caeau, gan adael gwaith aur y Castell ar y de. Toc croeswn gae, ac y mae'r Tŷ Coch draw yn ei gwr uchaf. Y mae mawredd gwaith bysedd Duw ar y creigiau sydd y tu cefn i'r Tŷ Coch, ond tlodaidd iawn yw'r olwg ar y tŷ ei hun.
Gadewch i ni ddynesu ato. Y mae'n eithaf clyd a glan, er mai bechan iawn yw ei ffenestr a phur anwastad ei lawr. Dyma ddau ŵr ieuanc yn dod o'r tŷ i'n cyfarfod, ac yn cymeryd diddordeb mawr ynom pan ddeallant ein bod ar bererindod i wlad Ap Fychan. Peth digon hawdd i bobl ddieithr fel y ni, a ninnau wedi darllen papurau newyddion ac yn medru siarad Saesneg, ydyw ei lordio hi dipyn, fel y dywed pobl y fro hon, yng ngŵydd pobl wledig. Gwell i chwi beidio mewn cwm fel Penanlliw; y mae'r gŵr ieuanc gwallt ddu yna wedi gweled mwy