ond odid, nag a welsoch chwi; ac y mae aml un trahaus wedi gwingo dan ffrewyll awen chwerw'r llall.
Dan gyfarwyddyd dau nai Ap Fychan awn o amgylch y tŷ. Yn y pen uchaf iddo yr oedd tad Ap Fychan yn byw, darn sydd eto dan ei do brwyn. Dyma'r drws diaddurn o'r hwn y cerddodd Ap Fychan i'r byd gyntaf, i ymdrechu'n galed am ei damaid bara i ddechrau, ac i gyfrannu bara'r bywyd i lawer enaid newynog wedyn. Dacw'r ffenestr eto'n aros drwy yr hon y gwelodd oleuni dydd Duw gyntaf erioed rywbryd tua diwedd y flwyddyn 1809. Dyma'r lle y bu ei dad, - dyn duwiol, diwinydd, a llenor da, - yn ymladd yn galed yn erbyn yr amseroedd enbytaf welodd y llafurwr Cymreig, efallai, yn holl hanes ei wlad. Dacw'r mynyddoedd, y naill y tu hwnt i'r llall, y mynyddoedd sy'n ymddelwi yn enaid pob Cymro. Bûm yn meddwl lawer gwaith fod Ap Fychan, wrth ddarlunio ieuenctid Cadwaladr Jones, yn darlunio, - na, nid ei ieuenctid ei hun, - ond y peth ddymunasai'r bachgen tlawd fod. Yr oedd bywyd Cadwaladr Jones, "mab ffarm," yn fywyd yr hiraethai'r "hogyn cadw" am dano.
- "Gallwn yn hawdd ddychmygu iddo dreulio llawer dydd teg, yn hafau dyddiau ei faboed, ar lan y nant sydd yn myned heibio i'r Deildref Uchaf, a'r afon Lliw, sydd yn golchi un ochr i ddôl a berthyn i'r tyddyn, yn chware, ac yn ceisio dal y pysgod gwylltion a heigient ynddynt. A gallwn farnu, yr un mor naturiol, ei