fry, at Dan y Castell. Yr oedd Ap Fychan a'i frodyr a'i chwiorydd yn adnabod pob un o'r cerrig hyn fel eu cymdogion. Un ffordd i ennill ambell geiniog oedd hel cen oddi ar gerrig. Defnyddid y cen i lifo dillad, ac nid oes bosibl cael lliw prydferthach. Crwydrodd Ap Fychan llawer, yn hogyn byrdew, gyda brawd hyn nag ef, i hel cen cerrig ac i gardota. Clywais hen frawd yn dweud yn ddiweddar ei fod wedi cyfarfod y ddau lawer gwaith. Byddai gan Ap Fychan got laes, - hen got oedd wedi disgyn iddo oddi wrth rywun hyn, - a dwy boced fawr y tu mewn iddi. Yn y naill boced byddai cen cerrig a chardod flawd, ac yn y llall byddai Beibl mawr.
Crwydrodd y ddau frawd unwaith cyn belled ag Aberystwyth. Cardotasant yn Sir Aberteifi, a chawsant lawer o ŷd. Ond cymerodd rhywun calon-galed digydwybod fantais ar y ddau hogyn deg ac wyth oed, a mynnodd eu blawd i gyd am y grôt oedd raid iddynt dalu am groesi'r afon Dyfi. Ond yn y cwch dywedodd rhywun tirion, - "Yr wyf fi'n talu dros y plant bach." "Ni ellais byth," ebe Ap Fychan lawer blwyddyn wedyn, "ar fy nheithiau pregethwrol, fyned heibio'r tai a'm lletyasent, heb deimlo diolchgarwch i Dduw, ac i ddynion hefyd, am y tiriondeb a dderbyniais yn nyddiau plentynrwydd a thlodi."
Er hyn oll, - cafodd Ap Fychan ieuenctid