Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/39

Gwirwyd y dudalen hon

"Oes gen ti adnod, fy mhlentyn i?"

"Oes."

"Wel, tyrd a hi."

"Bydded hysbys a gwir yw.
Lle crafa'r iâr, y piga'r cyw."

"Da iawn, fy machgen i, pwy ddysgodd yr adnod ene i ti?"

"Twm Seimon a Robin y Go."

"Roeddwn i'n meddwl. Paid di a chymryd dy ddysgu gennyn nhw eto."

Un tro cafodd Mari Jones y Lôn, un o'r gwragedd duwiolaf welodd ei hardal, gan Robin addo dod i'r capel y Sul wedyn. Addawodd yntau ar yr amod ei bod hi'n rhoddi caniatâd iddo yn y bore. Nos Sadwrn cymerodd Twm siswrn a thorrodd un ochr yn unig o wallt hir Robin, ac eilliodd hefyd un gern iddo. Bore Sul ymddangosodd Robin ger bron Mari Jones, gyda gwallt hir ar un ochr i'w ben, a'r gwallt wedi ei dorri yn y gnec ar yr ochr arall. Ni welwyd Robin ymysg y duwiolion y bore Sul hwnnw.

Dro arall yr oedd Twm a Robin yn cychwyn i'r Bala i arddangosfa anifeiliaid gwylltion. Nid oedd gan Simon Jones arian parod i'w roddi iddynt yn eu pocedi, ond rhoddodd bapur i'w roi i hen wraig y King's Head, a ffigwr dau arno. Deallodd y ddau mai