Heibio'r garreg yr eisteddwn arni rhedai dyfroedd grisialaidd o ffynnon y Bedyddwyr, dwr clir wedi codi'n fore ym mro y creigiau a'r grug. Hyd ochrau sych hyfryd yr afonig, blodeuai'r coesgoch a'r rhedyn, gan wasgaru eu perarogl hyfryd gwan. Ac ar ael y bryn o'n blaenau gwelem Gutiau'r Gwyddelod, fel ysbrydion hen amseroedd.
Nid oeddwn fy hun yn y llecyn hwnnw. Yr oeddwn i a gŵr ieuanc, oedd yn treulio ei wyliau gartref yn Harlech, wedi dod yn ffrindiau mawr. A chan ei fod yn gwybod am bob troedfedd o'r ardal, yr oeddwn wedi erfyn arno ddod yn gwmpeini i mi. Ni fuasai'n bosibl cael diwrnod na chwmni gwell. A rhag bod fy nghydymaith yn meddwl fy mod wedi blino eisoes, troais fy nghefn ar olygfa oedd mor swynol i mi.
O'n blaenau yr oedd gallt serth, ac yr oedd corn simne unig i'w weled drosti, fel pe buasai'n codi o'r ochr draw. Corn simneCefn y Filltir oedd, a chlywais fod yno bregethwr unwaith, pregethwr y Bedyddwyr, yn meddu dylanwad ar yr ysbrydion drwg. Hawdd gennyf fi gredu hynny, ac ni rown fawr am bregethwr os na fydd ar yr ysbrydion drwg dipyn o'i ofn ambell i dro.
Yr oedd yr allt yn drwm a'r dydd yn boeth, ac wrth ddringo igam-ogam i ben y bryn safem yn