aml, a thaflem aml olwg yn ôl ar y castell a'r môr. Yr oedd sŵn y môr yn dod yn fwy gwan a siòl o hyd, a phrin y clywem ef pan ddoi sŵn gwenynen i'n clustiau, wrth iddi grwydro dros flodau man y mynydd.
Wedi cyrraedd pen y bryn, wele wastatir hir o'n blaenau,- cae hir eithinog glas o'r enw y Fonllech Hir. Yr oedd awel adfywiol yn crwydro o'r mynyddoedd i'n cyfarfod, wedi casglu perarogl mewn cannoedd o gaeau gwair. Oddi tanom yr oedd cwm rhamantus Nancol, a morfa'r Dyffryn. Dros y rhain y gwelem Fochras a'i gregyn, a Sarn Padrig yn y môr. Ehedai aml wylan tua'r tir rhyngom a'r awyr las, arwydd fod storm yn y môr. Yr oedd gorchudd o niwl dros yr Wyddfa a'r Rhiniog a'r Moelfre o'n blaenau.
Daethom i ffordd uniondeg yn rhedeg ar hyd y Fonllech, debyg i'r ffordd Rufeinig, o Lanfair i Feddgelert a Nanmor. Cerddasom ennyd ar hyd hon, gan droi ar y chwith o'r llwybr gerddem o'r blaen. Oddi tanom gwelem ffermdai Drws yr Ymlid a Chil y Bronthyr. Dilynai aber ni, gan fynd dan y ffordd weithiau; efallai i ti ei gweled, darllenydd hoff, yn disgyn yn gawod wen dros y graig yn ymyl castell Harlech.
Troesom o'r ffordd hir union wedi ei dilyn am beth amser, gan gyfeirio ar y de tua Chwm