Bychan. Yr oedd tarw'r Ffridd ar ein llwybr, ond ni wnaeth fwy na rhuo. Yr oeddwn wedi edrych o'm cwmpas am le i ddianc, ac wedi methu canfod yr un. Hyfryd i mi oedd gweled y tarw'n rhoi ei ben i lawr, ac yn ail ddechrau pori mewn heddwch. Bûm mewn ffos unwaith, ag ochrau cerrig iddi, a tharw yn bwrw a'i ben ataf, ond fod yr ochrau cerrig yn rhy gul i'w dalcen ddisgyn arnaf. Yr wyf yn cofio ei anadl boeth ar fy wyneb o hyd; a pho leiaf o deirw fo'n y byd, gorau oll gen i.
Caeau bychain caregog oedd yno, gyda darnau o dir amaethiedig ymysg corsydd a brwyn. Yr oedd ffrydiau ardderchog o ddwfr gloyw ymhob man. I lawr oddi tanom gwelem gaeau gwyrddion dyffryn yr Artro, a'r môr dyfnlas draw dros y morfa llydan a'r traeth. Yr oedd gwres yr haul wedi codi cymylau i hulio'r nen. Doi ambell heulwen danbaid trwy'r cymylau, ac yr oedd lliw pob peth yn troi yn ogoneddus tan ei gwen,- lliw melynwyn brenhines y weirglodd, coch gwan blodau'r grug, melyn tanbaid yr eithin, a'r lliwiau afrifed rhwng coch-wyrdd y gwair aeddfed a glaswyrdd yr egin ŷd. Yr oedd llawer o'r gwair wedi ei gynhaeafu oddi ar rosydd y Ffridd a Rhyd yr Eirin, a'r syndod i mi oedd sut yr oeddynt wedi medru lladd y byrwellt rhwng y twmpathau caregog, os nad a siswrn. Ac yr oedd arogl y mynydd yn dod i'n cyfarfod dros y caeau cyneifiedig, arogl crawcwellt a grug.