Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/47

Gwirwyd y dudalen hon

oedd yno un math o goed bach oeddem yn adnabod yn dda, sef coed llus.

O'r diwedd cyraeddasom y gwaelod, ac aethom drwy lidiart bychan mewn mur o gerrig geirwon. Ac wele'r Gerddi Bluog o'n blaen. Wrth ei gefn yr oedd llond y nant o goed, a ffrwd gref yn rhedeg yn wyllt ar hyd y graig a'r graean oddi tanynt. Ar lan y ffrwd hon gwelem yr adeiladau,- yr helm drol a'r beudai a'r cutiau moch,- ac ymhellach draw na hwynt gwelem y tŷ. Y ddau gar mawn wrth gefn yr helm, y cunogau llaeth yn sychu ar y graig, y buarth glan, y coed cysgodol, yr olwg glyd a threfnus,- y mae'r Gerddi Bluog yn debyg iawn i lawer hendre Gymreig. Ond yr oedd y pinwydd yn taflu rhyw wawr henafol a dieithr ar y lle. Wrth i ni ddod i lawr ochrau'r buarth, yr oedd arogl ceilys yr eithin a chamomeil yn perarogli'r awel, ac yr oedd cymylau gwynion yr haf yn ymlid eu gilydd uwch ein pennau dros y cwm.

Croesasom yr afonig, a dechreuasom chwilio am enwau maswniaid ar hen furiau'r beudai. Ar garreg las fechan wrth ffenestr dalcen un beudy gwelsom hyn, -

Morgan Prys
HYDREF: 31
1728: W. H.
Pen.: Saur

O'r adeiladau daethom at y tŷ, a gwelsom yr