Cychwynasom i lawr tua gwaelod y cwm hyd lwybr troellog, a chawsom ein hunain mewn gwlad ramantus iawn. Unwaith daethom i hafan goediog gysgodol, gyda rhedyn tal yn dechrau melynu hyd ei hochrau, a heulwen wan ar ei brwyn ac ar y dwfr gloewlas araf oedd yn llithro gyda'i min. Ar ochrau'r meysydd y mae creigiau toredig, fel meini wedi eu paratoi i deml; ac yr oedd rhyw ddistawrwydd yn teyrnasu dros yr holl fro gysgodol, fel pe buasai unwaith wedi bod yn lle prysur a llawn o bobl, ac yn awr wedi adfeilio.
Cyn hir yr oeddem ar lan yr Artro, ffrwd wyllt o ddwfr grisialaidd yn rhedeg rhwng dolydd gwyrddion. Yr oedd y ffordd yn mynd yn fwy diddorol o hyd. Wele'r Graig Ddrwg a Charreg y Saeth o'n blaenau, a gwelsom raeadr ac aml lecyn rhamantus. Yr oedd y ffordd yn myned ar hyd min y llyn, ac yr oedd yr olygfa dros y dyfroedd tawel yn un i'w chofio. Ymgodi Carreg y Saeth yn fawreddog y tu arall i'r dŵr. Ar y de yr oedd llwyni o goed, a bryn yn codi y tu ôl iddynt. Ac ar y chwith yng nghyfeiriad yr amaethdy sydd ym mlaen y Cwm Bychan, yr oedd hesg rhwng y llyn a'r caeau gwair. Y mae'r amaethdy hwn mewn lle trawiadol, a dywedodd fy nghyfaill ystori eithaf cyffrous am rai o hen deulu'r tŷ. O amgylch y tŷ y mae hanner cylch o greigiau, fel y darlun o