greigiau Edom sydd yn fy meddwl crwydrol i. Y mae y creigiau ar lun muriau anferthol, gwaith maswniaid oesoedd y cewri. Rhwng y creigiau a'r llyn y mae tir,- rhyw hanner gweirglodd hanner mawnog; a throsto gwelem y llyn o hyd fel arian crych, a phinwydd duon yn sefyll fel myfyrdodau y tu hwnt iddo. A thraw, dros y cwbl, yr oedd y mynyddoedd dan len denau o niwl.
Gadawsom yr amaethdy o'n holau, a dringasom i fyny gyda chlawdd mynydd. Buom yn teithio yn hir drwy hafan goediog; ond o'r diwedd daethom i'r mynydd agored, a daeth awel hyfryd dros y graig i'n cyfarfod. Yr oeddwn wedi clywed llawer am y grisiau Rhufeinig yn Ardudwy, ac yr oeddwn wedi meddwl mai rhyw ris neu ddwy oedd yno wedi eu naddu mewn craig. A mawr oedd fy syndod wrth weled llwybr o gannoedd, os nad miloedd, o risiau yn arwain i fyny i'r mynydd. Anhawdd iawn, hyd yn oed i'r ieuanc a'r brwdfrydig, fuasai dringo'r mynydd heb y grisiau; ond yr oeddem yn myned i fyny ar hyd iddynt mor hawdd ag ar hyd llwybr gardd. Anaml y bûm mor hapus wrth gerdded unrhyw lwybr ag wrth gerdded y llwybr Rhufeinig yn Ardudwy. Yr oedd yr awel yn adfywiol a thyner, yr oedd murmur y nentydd yn felodaidd, yr oedd y blodau'n orlawn o fywyd, ac yr oedd tawelwch