Gwelsom fod y niwl yn prysur godi o'n holau. Gwelem greigiau duon ysgithrog, fel tyrau dinasoedd llosg yn codi ohono; ac yr oedd y niwl yn torri'n ddarnau wrth daro yn erbyn y creigiau hyn. Ac yr oedd y grisiau Rhufeinig yn arwain i lawr i'r niwl. Nid peth hawdd oedd colli golwg ar Drawsfynydd, a chychwyn i lawr hyd y grisiau drachefn. Cofiwn, wrth fyned i lawr ar hyd iddynt, eu bod yno cyn i'r efengylydd cyntaf ddod i'r wlad, a pheth hen iawn i deimlad Cymro yw peth hyn na'r efengyl.
Ni fedr dyn fyw ar lus yn unig. Mwyn oedd am y gwahoddiad hwnnw i'r Gerddi Bluog. Yr oeddem yn newynog,- yr oedd awel y mynydd wedi dwyn awydd am fwyd wrth roi terfyn ar ein lludded,- ond nid oedd y ffordd brydferth yn rhy hir gennym, hyd yn oed wrth ei cherdded yn ôl.
Heibio'r llyn drachefn a thrwy'r hafan unig cyraeddasom y Gerddi Bluog yn ôl. Yr oedd y wraig garedig wedi ein gweled yn dod. Arweiniwyd ni ar unwaith ar hyd y cyntedd hir hwnnw, ac i'r parlwr yn aden y tŷ. Cawsom de heb ei fath; nid wyf yn meddwl fod cystal hufen yn unlle, na chystal caws. Un o'r Bedyddwyr Albanaidd, hen ddiadell y gŵr rhyfedd o Ramoth, oedd y wraig. Holais lawer arni, oherwydd y mae llawer rhamant am John Jones o Ramoth. Cynnil iawn oedd ei hatebion, a