distawach na llawer gwraig glywais yn adrodd hanes. Pan ofynnais iddi am wisgoedd pobl ei chapel, ni chefais yn ateb ond gwirionedd cyffredinol am ddynol ryw,- "Mae pawb gen grandied ag y medra nhw yrwan," ac yr oedd y symledd a'r caredigrwydd sydd yn nodweddu'r seiat fechan yn amlwg yn y tŷ hwn. Tawel, dirodres, a mwyn iawn y cawsom ni wraig un o'r Bedyddwyr Albanaidd yn y Gerddi Bluog. Hyfryd oedd meddwl wrth ymadael, fod hen gartref Edmwnd Prys yn un o gartrefi croesawgar Cymru hyd heddiw.
Dringasom ochr y mynydd, gan droi'n ôl yn aml i edrych ar wlad Edmwnd Prys, a buan y chyraeddasom y ffordd Rufeinig hir sy'n mynd fel saeth hyd y gribell. Yr oedd nant yn cyd dod â ni i lawr, gan ddawnsio a gwenu. Daethom i olwg y môr, a gwelem gastell Harlech yn ddu rhyngom a'r traeth melyn, fel angel coll yn crwydro ar ororau'r nefoedd. Codai cymylau melyn eurog i'r nen, yr oedd lliwiau bendigedig ar y tywod a'r ewyn mor. Nid oedd y castell ond megis corrach du bach ym mhresenoldeb y mynyddoedd a'r môr. Yr oedd y prynhawn yn darfod, ac yr oedd niwl a chysgodion yn dechrau ymdaenu dros yr Eifl a Moel y Gest a'r Wyddfa. A dyna ddiwedd fy nhaith innau i gartref Edmwnd Prys.