gyda'r nos. Ni welwn fawr o dref na dim, o'r orsaf; a throais i'r gwesty cyntaf gefais. Yr oedd yno dân braf, - yr oedd yr hin yn oer a glawog, er mai haf oedd. Yr oedd yno fwyd da ac iachus mewn ystafell lan hefyd. Fel rheol, pur anghysurus ydyw lletyai Cymru o'u cymharu a lletyai gwledydd eraill, yn enwedig tai dirwest. Gadewir y ffenestri yng nghau ddydd a nos, nes y bo arogl anhyfryd ar yr ystafelloedd ac ar y dodrefn; gadewir llwch i hen gartrefu ar bob astell ac ym mhob cornel; a bydd rhigolau duon, digon i ladd archwaeth y cryfaf, ar y cream-jug o wydr tawdd. Ond, yn y gwesty hwnnw ger gorsaf Llanymddyfri, yr oedd popeth gyn laned â'r aur; yr oedd ôl dwfr grisialaidd ar bob peth. Yr oedd y lliain gwyn fel yr eira, yr oedd y siwgr fel pe'n disgleirio yn y llestr gwydr mawr, taflai'r tân oleuni rhuddgoch ar gwpanau glan fel y cwrel. Yr oedd y bara can, yr ymenyn, a'r caws yn flasus, yr oedd yr hufen yn felyn dew, yn ddigon tew, chwedl Kilsby, i geiniog nofio ar ei wyneb yn ddi- brofedigaeth. Ac am y tê, wel, tê, oedd; nid y trwyth roddir o'm blaen yn aml, trwyth nas gwn ar ddaear wrth ei hyfed beth sydd yn y tebot gyda'r dŵr, - pa un ai ffa'r corsydd ai dail carn yr ebol ai sug tybaco.
Wedi dadluddedu o flaen y tân, bûm yn darllen gweithiau S. R. Oedd yn yr ystafell.