y capel, gwelwn y cerbyd tua hanner y ffordd i fyny'r rhiw, a'r ceffyl yn gorfod ei dynnu o ochr i ochr, er mwyn lladd yr allt rywsut. Deuai un o emynau Williams i'm cof innau o hyd, -
Wel, f'enaid, dos ymlaen,
'Dyw'r bryniau sydd gerllaw
Un gronyn uwch, un gronyn mwy,
Na hwy a gwrddaist draw;
Dy anghrediniaeth gaeth,
A'th ofnau maith eu rhi,
Sy'n peri it' feddwl rhwystrau ddaw
Yn fwy na rhwystrau fu.
Ond dyma fi wedi dal y cerbyd, ac ar ben y rhiw. O'n blaen, o boptu'r ffordd, yr oedd caeau gweiriog, ac awel esmwyth aroglus yn anadlu drostynt. Troesom trwy lidiart ar y de, a dilynasom ffordd oedd yn croesi'r cae gwair i gyfeiriad yr afon. Toc daeth yr afon i'r golwg, a gwelsom ei bod yn rhedeg gyda godrau'r cae. Wrth i ni droi gyda'r ffordd gwelem lwyn o goed o'n blaen, yr oedd coed hefyd yn nyffryn yr afon, a throstynt oll gwelem y mynydd yn dawel a thlws. Lle hyfryd, pell o dwrf y byd, ydyw Pant y Celyn, -
Dyma'r man dymunwn aros
O fewn pabell bur fy Nuw,
Uwch terfysgoedd ysbryd euog,
A themtasiwn o bob rhyw;
Dan awelon
Peraidd hyfryd tir fy ngwlad.
Cerddais ymlaen tua'r tŷ, nid ydyw yn y golwg tan ddeuir i'w ymyl. Wedi mynd i mewn