Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/65

Gwirwyd y dudalen hon
PANT Y CELYN

i'r buarth, gwelwn o'm blaen dy newydd, gydag un talcen i'r llechwedd a'r llall at yr afon. Rhyngddo a'r afon yr oedd glyn bychan swynol, llawn o goed. Yn union o'i flaen, i dorri grym y gwynt ac i gadw pethau, yr oedd hen dŷ to brwyn. Teimlwn, er nad oedd dim yn drawiadol iawn yn y tŷ, fod y fangre'n un hyfryd a thrawiadol iawn. Es ymlaen at y tŷ, cnociais, a daeth geneth lygat-ddu, rhyw bedair ar bymtheg oed, i'r drws. Yr oeddwn wedi gweled y darlun o Williams sydd yn llyfrgell Abertawe, a theimlwn fod yn rhaid fod yr eneth hon yn perthyn iddo. "Dyn dieithr o'r Gogledd ydwyf," ebe fi, "wedi dod i weld Pant y Celyn."

"Chwi gewch ei weld, a chroeso. Dowch