y darluniadau o'r nefoedd sydd, erbyn hyn, yn rhan o freuddwydion ac o obeithion pob Cymro. Gwened yr haul arnat byth, ti gartref per ganiedydd Cymru!
Cyn y nos, ail gychwynnais o Lanymddyfri, a dringais i fyny i eglwys Llanfair ar y bryn. Y mae bedd a chofgolofn Williams wrth ochr Pant y Celyn i'r eglwys. Y mae golygfa brydferth oddi ar ben y bryn hwn, oddi wrth y bedd, ar y wlad oddi amgylch; ond ofer fuasai dechrau dweud hanes y fro hanesyddol hon. Y mae'r golofn o wenithfaen Aberdeen, ac y mae'r argraff sydd arni wedi ei godi oddi ar y garreg las oedd ar fedd Williams o'r blaen.
Cyn i mi adael Llanfair ar y bryn daeth un heulwen hyfryd euraidd ar yr yw ac ar wlith y beddau; ac yn fuan iawn gwelwn yr eglwys a'i bedd yn diflannu o'm golwg yn y pellter ac yn y gwlaw. Ddarllenais emynau Pant y Celyn wedi mynd adref gyda mwy o flas nag erioed. Ddarllenais hwy droeon wedyn, ac yr wyf yn barod i ddweud gydag Elfed wrth bob Cymro, -
Dante — dos i'w ddilyn;
Shakespere — tro i'w fyd;
Cofia Bant y Celyn
Yr un pryd.