BRYN TYNORIAD
Yna ganwyd Ieuan Gwynedd—hynaws.
Ynghanol dinodedd;
A'i wylaidd swyn hawliodd sedd
Orielau anfarwoledd.
—GWAENFAB
Cartref Ieuan Gwynedd, — pa Gymro na theimla ei galon yn cynhesu wrth feddwl am dano? Yn y cartref tlawd ac anghysbell hwnnw y bu mam bryderus yn ceisio dysgu ei Hieuan fach bregethu, ac yn agor i'w feddwl plentynnaidd gynnwys rhyfedd ei Beibl Coch,- oedd wedi prynu gan Charles o'r Bala ei hun, ac wedi talu am dano bob yn ychydig o'i henillion prin. Pwy aberthodd fwy dros ei wlad na'r bachgen hwnnw, pwy welodd ddyfodol Cymru a threm gliriach, pwy ddangosodd brydferthwch bywyd ei gwerin mor ddi-ofn? A wnaeth rhywun fwy mewn oes mor fer â than gymylau mor dduon? Naddo, neb.
Ar fore hyfryd yn yr haf diweddaf, cefais fy hun yng ngorsaf fechan y Bont Newydd, rhyw dair milltir o Ddolgellau. Aeth y trên ymaith, gan adael dim ond meistr yr orsaf a minnau. Ar un ochr yr oedd bryn coediog, yr ochr arall yr oedd yr afon; a phrin yr oedd digon o le i'r ffordd fawr a'r ffordd haearn rhwng yr afon a'r bryn. Ond dros yr afon yr oedd ychydig o