gaeau gwastad, a bryn coediog arall y tu hwnt iddynt. Y mae'r dyffryn ymysg y culaf o ddyffrynnoedd Cymru. Ger yr orsaf, dyma bont i groesi afon Wnion. Y mae golygfeydd swynol i'w gweled oddi ar y bont hon,- mynyddoedd uchel gleision i'w gweled ymhob cyfeiriad dros lwyni o goed, a'r afon risialaidd yn murmur yn ddedwydd rhwng y bryniau sydd fel pe'n ymdyrru ati i edrych ar ei thlysni. Gwlad goediog garegog ydyw hon, y mae'n amlwg, a glynnoedd llawn o ir-gyll a rhedyn.
Ond rhaid peidio aros ar y bont. Dyma ffordd deg, rhwng gwrychoedd cyll, a rhosynnau gwylltion claerwyn fel pe'n gwylio'r teithwyr anaml. Ar ochrau'r ffordd y mae blodau gwylltion lawer, y llysiau mêl tal aroglus, a gwawr felen ar eu gwynder; clychau'r gog welw leision, rhyfeddod i blentyn; a'r bengaled arw, gyda'i thegwch cartrefol. Ie, ar y ffordd deg hon, ac ymysg y blodau hyn, y treuliodd y plentyn Ieuan Gwynedd lawer o ddiwrnodau haf ei blentyndod.
Ond dyma'r Tŷ Croes yn ymyl. Ydyw, y mae yn union fel y darlunia Ieuan ef pan yn hiraethu am ei fam a bore oes. Y mae ei dalcen atom, a'i wyneb gwyngalchog i'r ffordd. Dacw'r dderwen lydan frig ar ei gyfer, dacw'r cae porfa o flaen y drws, dacw'r pistyll bach mor glir â phan gyrchai Catharin Evans ddwfr o hono a