phan geisiai Ieuan Gwynedd gydio ynddo pan yn ddwyflwydd oed. "Cawsant ran y cyffredin o lafurwyr a man amaethwyr Cymru," ebe Ieuan am ei fam a'i dad. "Ni buont heb y fuwch yn y beudy, yr ychydig ddefaid yn y Cae Porfa, na'r pistyll gloyw grisialaidd o flaen y drws drwy yr amser." Mewn ychydig funudau croesir y cwm o fryn i fryn,- ond mor ddyledus ydyw Cymru i'r fangre fach! Yn y bwthyn hwn y bu'r bachgen yn darllen ychydig lyfrau ei dad,- Grawn Sypiau Canan, Taith y Pererin, Llyfr y Tri Aderyn, Ffynhonnau yr Iachawdwriaeth, yr Ysgerbwd Arminaidd, Bardd Cwsg,- a Beibl Coch ei fam. Dyma'r garreg olchi; oddi ar ei phen y bu'r plentyn yn pregethu i'r dderwen fawr a'r pistyll,-- blaenor ac arweinydd y gan. Ac yn rhywle yn ymyl y mae'r llannerch lle syrthiodd ar ei liniau dan argyhoeddiad i weddïo, llannerch yr ymwelai â hi bob tro y deuai i edrych am ei fam. Yma y datblygodd ei feddwl, dan arweiniad cariadus ei fam; oddi yma yr aeth yn fachgen ieuanc i ymgodymu a holl gyfyngderau myfyriwr tlawd; yma y bu, yn Ionawr, 1849, yn edrych ar wyneb ei fam cyn yr wylnos,- yn awr heb na gair na deigryn fel y bu. Pell y bo'r dydd yr anghofio Cymru y fam hon a'r mab hwn.
"Faint o ffordd sydd oddi yma i Fryn Tynoriad?" ebe fi wrth wraig oedd yn sefyll gyda dau