blentyn wrth y drws. Dywedai fod siwrnai hir i fyny i gyfeiriad pen y Garneddwen, hyd ffordd y Bala. Bu dadl rhyngof a'r bachgen bach am oed Ieuan Gwynedd pan symudodd ei rieni o'r Bryn Tynoriad i'r Tŷ Croes. O'r diwedd dywedai fod ganddo lyfr setlai'r cwestiwn, llyfr oedd ei frawd hynaf, sydd yn gwasanaethu yng Nghwm Hafod Oer, wedi ei yrru iddo. Aeth i'r tŷ, a daeth a rhifyn o Gymru'r Plant yn fuddugoliaethus, i roi taw arnaf.
Cychwynnais hyd ffordd dan y coed tua Bryn Tynoriad. O'm blaen yr oedd Dol Gamedd, ar fryn, yn debycach o bell i dy Elizabethaidd neu fynachlog na dim arall. Oddi yno cefais lwybr troed i lawr y cae a thrwy goedwig fechan i'r ffordd haearn. Cerddais ennyd hyd hon, gan ryfeddu at ddistawrwydd ac unigedd gwaelod y cwm, lle nad oedd prin le i'r afon a'r ffordd. Toc gwelwn feudy megis pe'n edrych arnaf dros ochr rugog y ffordd. Dringais i fyny ato, a gwelais gaeau, yn lle coedwig fel o'r blaen. Dechreuais ddringo i fyny. Yr oedd y distawrwydd yn teyrnasu o hyd, oddigerth fod sŵn carnau meirch carlamus yn dod o'r ffordd islaw. Ond wele wlad fawr boblog yn ymddangos wrth i mi ddringo i fyny, ffermydd laweroedd a beudai, a chynhaeaf gwair prysur. O gwmpas y cylch o ffermydd yr oedd cylch pellach ehangach o fynyddoedd ysgythrog, a gwelwn Gader Idris yn