Ymysg y gwladgarwyr newidiodd wedd meddwl Cymru yn y blynyddoedd diweddaf, nid y lleiaf oedd ef.
Gwnaeth gymaint am fod ei fywyd mor debyg i fywyd ei frodyr, tra yr oedd amcanion y bywyd hwnnw mor anhraethol uwch. Plentyn Cymru oedd ym mhob peth,- ar y Beibl y cafodd ei fagu, sêl dros ddirwest ddeffrodd ei enaid, awydd angerddol am wybodaeth wnaeth iddo fyrhau ei ddyddiau o fyfyrdod tlawd a gwaith amhrisiadwy.
Dyhead ei fywyd oedd gweled Cymru'n lân ac yn rhydd; yn lân oddi wrth bechod, a'i meddwl yn annibynnol ar bawb ond ar ei Duw. Ond er mor chwerw oedd yn erbyn ei phechodau, ni fedrai oddef i neb ei chamddarlunio a'i gwawdio, fel y dengys ei ysgrifau miniog yn erbyn bradwyr y llyfrau gleision.
Fel ysgrifennydd y gwasanaethodd Gymru orau. Yr oedd ei sêl,- a'i afiechyd, efallai,- yn ei gwneud yn chwerw weithiau at ei wrthwynebwyr, ond maddeuir pob gair garw pan gofir am ei lafur llethol gyda'r Adolygydd, a chyda'r Gymraes yn enwedig. Gwelodd mor bwysig oedd merched Cymru; gwyddai y medrent hwy newid y ffasiwn o ddirmygu iaith eu gwlad. Gwelodd fod ar feddwl Cymru eisiau sylfaen o wladgarwch goleuedig, a buasai wedi ysgrifennu llyfr ar hanes Cymru pe tebyg y rhoddasai ei gydwladwyr groesaw iddo.