eglwys. Y mae'r eglwys yn isel a llydan; ac yn drymaidd iawn y tu mewn. Cerddais yng nghyfeiriad y côr, a gwelwn ysgrifen hanes Hywel Harris ar garreg.
Gwelais lawer carreg fedd mewn llawer gwlad mewn llawer lle rhyfedd,— gwelais y garreg ar fedd gwag Dante, gwelais fedd Chateaubriand mewn craig yn nannedd y tonnau, gwelais feddau rhai enwog mewn eglwysi mawrwych,—ond ni theimlais gymaint yn unlle ag yn eglwys drymaidd dywyll Talgarth. Hyfryd i Hywel Harris oedd huno lle y clywodd y bywyd newydd yn ymweithio yn ei enaid. Teimlwn fod mwy na bedd yn eglwys Talgarth; teimlwn fy mod ar lecyn genedigaeth Cymru newydd. Beth bynnag arall fedrir ddweud am ei hyawdledd ac am ei athrylith, ac am ei gynlluniau rhyfedd, gellir priodoli deffroad Cymru, o gwsg oedd yn marweiddio ei nerth cenedlaethol, iddo ef yn fwy nag i neb arall.
Ond y mae ychwaneg na'i hanes ef ar y garreg, digon i'm hatgofio am y teimladau daearol,- teimladau ag arlliw y nef arnynt,- oedd mor gryf yn ei enaid. Ar ei deithiau pregethu, yn ei weddïau, yn ei freuddwydion, yn ei ofnau, y mae un nad enwa yn bresennol yn barhaus. Bûm yn darllen ei lythyrau ati, a'r cynnig priodas. Wedi hanes yr ymserchu a'r ofni,- stori sydd mor hen, ac mor newydd,—dyma ei