Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/87

Gwirwyd y dudalen hon

ar yr holl adeilad mawr di drefn, ar ei ffenestri crynion tyrog, gyda'r cloc a'r lantar yn sefyll uwchben y cwbl. Aethom heibio'r wyneb, a thrwy ddrws yn yr ochr i ystafelloedd bychain, ond hynod ddiddos a chysurus. Wedi hwyr-bryd blasus, digwyddais edrych ar nenfwd gwyngalchog yr ystafell yr eisteddem ynddi, a gwelwn enw Jehofah mewn llythrennau Hebraeg uwch ein pen. Dywedodd yr athro wrthyf mai yn yr ystafell hon yr arhosai Countess Huntingdon pan ar ymweliad a Hywel Harris, ac y mae'n sicr fod arddeliad mawr wedi bod ar lawer dyletswydd teuluaidd yn yr ystafell gysegredig.