Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/92

Gwirwyd y dudalen hon
Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu. Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau oni chofiaf di, oni chodaf Jerwsalem goruwch fy llawenydd pennaf. — SALM CVII:5-6. Ar wyneb-ddalen "Supplication" John Penri dros Gymru.

CEFN BRITH

Yr oedd cyfaill i mi unwaith yn cyd-deithio yn y trên a'r diweddar Barch. J. Kilsby Jones, o Lanfair ym Muallt i Lanwrtyd. Ymhen tipyn wedi gadael Llechryd, dyma Mr Jones yn tynnu ei het, ac yn dweud, — "Yr ydym yn awr ar dir clasurol. A welwch chwi'r llwyn o goed acw? Dacw Gwm Llywelyn. A welwch chwi’r tŷ ar ochr y bryn i fyny acw? Dacw’r tŷ y ganwyd John Penri ynddo. John Penri a ddywedodd wrth yr Ymneilltuwyr am fynd i'r Amerig. Ie, yn y bwthyn acw y ganwyd y syniad am weriniaeth fawr y Gorllewin."