glywed ei dwndwr ar ei cherrig a'i graean. Cerddais i lawr o'r orsaf, a sefais ennyd ar y bont sy'n croesi'r afon brydferth. Tra'r oeddwn yn edrych i fyny'r afon ar y glennydd coediog, ac ar y mynyddoedd oedd draw dan eu gorchudd llwyd o wlaw, clywn swn troed trwm, swn rheolaidd fel swn troed rheng o filwyr. Heddgeidwad oedd yno. "Rhagluniaeth a'i hanfonodd yma," meddwn wrthyf fy hun, "daeth i'r dim, caf ei holi am y ffordd."
"Ŵr braf," meddwn wrtho, "a welwch chwi'n dda gyfarwyddo dyn dieithr i Gefn Brith?"
"I don't know what you say, you should speak English."
"Mae hynny'n orthrwm mawr," meddwn innau, "na chawn siarad Cymraeg a swyddogion cyflog mewn lle mor Gymreig â Llangamarch. Ffordd bynnag, er siarad Saesneg ag ef, a Saesneg llawer gwell na'i Saesneg ef hefyd, ni chefais ddim gwybodaeth ganddo. Gwelais yn eglur mai nid Rhagluniaeth wnaeth hwn yn heddgeidwad, ond prif-gwnstabl Seisnig. A rhyfeddwn yn fawr fy mod wedi camgymryd gwaith y naill am waith y llall. Ar ororau'r Deheudir y mae llawer o syniadau hen ddyddiau'r Lords Marchers eto'n aros, tybir gan yr awdurdodau mai llywodraethu'r Cymry yw eu gwaith, ac nid eu gwasanaethu. Ac y mae gormod o'u hen waseidd-dra yn y Cymry hyn eto,