mynyddig hwn. Yr oedd teimlad angerddol dros undeb Lloegr, yn wladol ac yn eglwysig. Dyma'r adeg yr oedd Elisabeth yn "Faerie Queene" i Loegr a Chymru, dyna'r adeg yr aeth Lloegr drwy beryglon oddi wrth alluoedd pabaidd Ewrop, dyna'r adeg y dangosodd Shakespeare mai aflwydd ddaw i wlad lle y gwrthwynebir y brenin, eneiniog Duw. Ufuddhau i'r frenhines, caru'r eglwys genedlaethol, a diolch i Ragluniaeth am gael byw yn yr amser hwnnw dyna dybiai ysbryd yr oes oedd dyletswydd dyn. Ac i Gymro, beth oedd mor unol â’i natur? Ond yr oedd yn yr amaethdy mynyddig hwn un welodd hanes oesoedd i ddod, un dangosodd yn glir beth fyddai dyfodol Cymru. Gwelai fod yr eglwys yn esgeuluso Cymru, ac yn gwrthod rhoi yr efengyl iddi yn ei hiaith ei hun; teimlodd rym yr efengyl a gwelai Gymru yn ei phechodau. Agorodd tosturi a phryder ei lygaid, a daeth mab yr amaethwr yn broffwyd ei wlad.
Ganwyd John Penri yng Nghefn Brith, yn y tŷ sydd o'm blaen, yn 1559. Aeth i Gaergrawnt yn bedair ar bymtheg oed, ac yno clywodd y Piwritaniaid cyntaf, — rhai ddywedai nad oedd y Diwygiad wedi ei orffen. A fe allai iddo gael cipolwg ar wirionedd mawr y dyfodol,—y medrai gwlad fod yn gadarn ac unol heb