Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CAN MIRIAM WRTH WYLIO MOSES

(Y PARCH. ROGER EDWARDS)

F'ANWYL frawd bach, ai tydi sydd yna,
Mewn cawell o frwyn,-ai dyna d'orweddfa?
Yn awr trwy'n trigfanau, mae Aiphtwyr yn greulon,
Yn ceisio meib bychain i'w boddi'n yr afon;
A thi, faban tlws, ge'st yna dy guddio,
A Miriam, dy chwaer, sy'n aros i'th wylio.

Dy wely o frwyn a wnaed yn fendigaid,
Trwy bềr nefol swyn, nas gwybydd yr Aiphtiaid;
Ochʼneidio i'r nefoedd wnai 'mam pan ei gweodd,
Pob corsen o hono a gweddi gyablethodd;
Hyderwn drwy ffydd y deui o hono,
Yn iach ac yn heinyf heb gael dy niweidio.

Er hyn y mae braw, mae'r galon yn ofni;
Fy mam, O, fy mam! pa fodd y mae arni?
Ei gofal oedd gymaint; ei serch, O, mor gynhes!
Gwasgedig ei henaid am faban ei mynwes!
A'm tad, O, fy nhad! yn ngwaith y priddfeini,
Gan ofn am ei faban mae 'i galon ar dori.

Mae'n galed yn wir ar Israel yrwan,
Gan fod rhaid i sam wneyd hyn gyda'i maban;
O, Pharaoh greulonaf, y llofrudd breninol!
Nid oes genyt delmlad, O, elyn annynol!
Dydd d'ofwy a ddaw; mae Duw yn y nefoedd;
Fe wrendy'n gruddfanau, fe farn dy weithredoedd.

O, Dduw Abraham, Duw Isaac, Duw Israel!
O, cofia mrawd bach, na foed it ei adael!
Duw Josepb, yr hwn a'i gwaredaist yn nerthol,
Rhag brodyr maleisus, ac Aiphtes anrasol;
O, cadw fy mrawd sydd ar fin yr afon,
I'th fraich ac i'th ddeall nid oes dim annichon.

Llywodraeth yr Iôr ar bobpeth sy'n trefnu,
Ar dir ac ar fôr efe sy'n teyrnasu;
Chwi wyntoedd sy'n gwneuthur ewyllys yr Arglwydd,
Chwi donau sy'n ufudd i'w air ef yn ebrwydd;
Wrth faban mor dlws, O, byddwch yn dyner!
Pwy wyr na ddaw'n brophwyd i'r Arglwydd ryw amser?

Ust! pwy ydyw hon sy'n dod at yr afon?
Ei hurddas sydd fawr medd moes ei morwynion;
Oddiwrth fy mrawd bychan nid yw hi yn nepell;
O, f'ofn! O, fy ngobaith! hi welodd y cawell!
Yn awr, Arglwydd Iôr, O, agor ei chalon,
A doed ei thosturi yn ffrydiau helaethion.

★ ★ ★ ★