PA LE MAE FY NHAD?
[Gan JOHN CEIRIOG HUGHES (Ceiriog), genedigol o Glynceiriog, 1833-1887.]
MEWN bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Eisteddai gwraig weddw yn nghanol ei phlant;
Yr ie’ngaf ofynodd wrth wel'd ei thristad,
Mae'r nos wedi dyfod, ond p'le mae fy nhad?
Fe redodd un arall gwyneblon a thlws,
I'w ddysgwyl ef adref ar gareg y drws;
Fe welodd yr hwyrddydd yn duo'r holl wlad,
A thorodd ei galon wrth ddysgwyl ei dad .
Y sêr a gyfodent mor hardd ag erioed,
A gwenodd y lleuad dros frigau y coed;
A'r fam a ddywedodd, “Mae'th dad yny nef,
Ffordd acw, fy mhlentyn, ffordd acw mae ef.”
Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Ymddiried i'r nefoedd mae'r weddw a'i phlant ;
Ni feddyr holl gread 'run plentyn a wad
Fod byd anweledig, a gollodd ei dad.
RHYDDID
(CEIRIOG.)
GWEL, gwel, y gadarn Wyddfa wen |