Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hwy synant at Iesu ar bren,
Ond drosot ti deuai i'r gwawd;
Hwy allant ddweyd, 'Dyma ein Pen!'
Ond gelli di dd'wedyd, Fy Mrawd !!



Angelion fil filoedd sy'n awr,
Na olchwyd eu gynau 'n y gwaed,
O gylch yr orseddfainc wen fawr,
A'u hedyn yn cuddio eu traed;
Ond wele bechadur fu 'n ddu,
Yn elyn llygredig a thlawd,
Yn myned trwy ganol y llu
At Iesu, gan waeddi, 'Fy Mrawd!'



Wrth graffu, canfyddaf fy hun
'R un ffunud â Brenin yr hedd; '
R un natur, 'r un fesur, 'r un llun,
'R un oedran, a pherffaith 'r un wedd!
Ei boenau droes imi yn gân,
Trwy 'i angau y cefais i fyw;
Ei waed a fy ngolchodd mor lân,
Fy Mhrynwr, fy Mhrynwr i yw.

O Iesu, sugndynodd cyn hyn
Bob llygad drwy'r nefoedd i gyd;
Fel pegwn y Gogledd, a dyn
Bob nodwydd môr-gwmpas trwy'r byd;
Ei harddwch yn nghanol ei blant,
Fel Meichiau obrwywyd a'i had,
Lwyr sugnodd feddylfryd pob sant,
Pob angel a chalon ei Dad.

Canolbwynt Paradwys yw Ef,
Lle cyfhwrdd y cyfan yn un,
Gan asio pob meddwl trwy'r nef,
Yn nhegwch ei Berson ei hun;
Fy_Mrenin, fy Mhriod 'r un pryd,
Fy Ngheidwad, fy Mrawd, a fy Mhen;
Fy Mhob peth, a'm Heiddo i gyd,
A hyny' oes oesoedd. Amen.