DEWI 'n y bair, a Duw'n ben—i'w gwylied
Fel y gwelo'r angen:
Er och ei mwg rhowch Amen,
Neu wyliwch gnoi y wialen.
O dan y cerydd dawn cariad,—dylech
Dawelu yn wastad;
Tranoeth teg wna triniaeth Tad,
O'ch holl ing cewch ollyngiad.
A'r boreu dowch o'r bair den—y gwelwch
Mewn goleu ei dyben;
Daw dyddiau y poenau i'r pen,
A molwch am y wialen.
Araul haf ddaw ar ol hyn-a Dafydd,
Er dyfais y gelyn,
Ddaw o'i wae yn Ddewi Wyn,
I ardaloedd aur delyn.
Os anobaith gais wynebu-i'ch enaid,
Achwynwch wrth Iesu;
A phob dawn yn llawn ail llu
Yr yn drachwyrn i'w drechu.
Hwyl i lawen Haleliwia—o gur
A gewch wrth Galfaria,
Anobaith, eich blinfaith bla,
Gilgwthir wrth Golgotha.
|
[Cyfieithiad o Anacreon, gan y Parch. JOHN JONES (Ioan Tegid),
Offeiriad Nanhyfer, Sir Benfro, 1792–1852.[1]]
CARIAD unwaith aeth i chwareu
Ar ei daith i blith rhosynau;
Ac yno'r oedd heb wybod iddo
Wenynen fach yn diwyd sugno.
Wrth arogli o hono'n hoyw,
Y rhosyn hwn a'r rhosyn acw,
Y wenynen fach a bigodd
Ben ei fys, ac ymaith hedodd.
A gwaeddodd yntau rhag ei cholyn,
A chan y boen a oedd yn dilyn;
At ei fam y gwnai brysuro,
A'r dagrau dros ei ruddiau 'n llifo.
|
- ↑ Awdl XXX